Y'mhlith holl ryfeddodau'r nef
Ym mhlith holl ryfeddodau'r nef
Ymhlith holl ryfeddodau'r nef
Yn mhlith holl ryfeddodau'r nef

(Cyfoeth/Ffrwyth yr Ymgnawdoliad)
1,2,3,(4),5;  1,(2,3),6,7,9;  1,6,7,(9),10;
 1,7,8,10;  1,7,9,8;  1,8,6,7,9.
Ymhlith holl ryfeddodau'r nef
  Hwn yw y mwyaf un -
Gweld yr anfeidrol ddwyfol Fod
  Yn gwisgo natur dyn.

Llewyrchu mae ei Dduwdod mawr
  Drwy'r holl o'i werthfawr waith;
Gan seintiau yn a than y nef
  Rhyfeddir Ef yn faith.

Mae'n rhyfedd mewn digofaint maith
  Yn erbyn pechod cas;
Myrdd mwy rhyfeddol yw ei waith
  Yn iachawdwriaeth gras.

Holl wrthwynebwyr addfwyn Oen
  A brofant boen a braw:
O'r dyfnder maith i'r nefoedd fry,
  Ei luoedd sy'n ei law.

Am hyn nid ofnaf angeu du,
  Pan fo'n terfynu f'oes,
Os teimlaf gariad Iesu cu
  Yn pêr felysu'r loes.

Ni chaiff fod eisiau fyth, tra fo
  Un seren yn y nef, 
Ar neb o'r rhai a roddo'u pwys
  Ar ei gyflawnder Ef.

Doed y trueiniaid yma 'nghyd,
  Finteioedd heb ddim rhi';
Cânt eu diwallu oll yn llawn
  O ras y nefoedd fry.

Mae mil o filoedd ger ei fron
  Yn treulio'r amser maith,
A byth heb golli'r cariad pur,
  Na'r pleser yn y gwaith.

Fe ylch ein beiau i ffwrdd â'i waed,
  Fe'n canna oll yn wyn; 
Fe'n dwg o'r anial maith i maes,
  I ganu ar Seion fryn.

    Mae ynddo drysor fel y cefnfor,
    Byth ni cheisaf ddim yn rhagor,
    Hedd a bywyd yw ei ffafor;
      Nefoedd berffaith,
    Yw cael drachtio'i Ddwyfol hedd.
Ymhlith :: Yn mhlith
Gweld yr anfeidrol :: I wel'd anfeidrol
fyth, tra fo // Un :: fyth na thrai // Tra
Finteioedd :: Yn lluoedd
- - - - -
Y'mhlith holl ryfeddodau'r nef Hwn ydyw'r mwyaf un, I wel'd anfeidrol, ddwyfol Fôd Yn gwisgo natur dyn. Boed trag'wyddol barch a moliant, Fyth i Frenin y gogoniant, Ar ei 'fengyl wen bo'r llwyddiant, I ddwyn heddwch, i ddwyn heddwch, I derfynau eitha'r byd. Ei gariad lifodd ar y bryn, Fel moroedd mawr di-drai; Ac 'fe bwrcasodd yno hedd Trag'wyddol i barhau. Mae clywed newydd am ei waed Yn llifo ar Galfari, Yn un o'r pethau mwya' ei fraint A fedd ein daear ni. 'Fe ylch ein beiau ffwrdd â'i waed 'Fe'n canna ni oll yn wyn, 'Fe'n dwg ni o'r anial maith i maes, I ganu ar Seion fryn.
William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Abbey (Scottish Psalter 1635)
Belmont (William Gardiner 1769-1853)
Brooklyn (W H Havergal 1793-1870)
Delfan (John Hughes 1896-1986)
Farrant (John Hilton -1608)
French (1615, The CL Psalmes of David)
Gräfenberg (J Crüger 1598-1662)
Nebraska (A R Reinagle 1799-1877)
Penmachno (T Hopkin Evans 1879-1940)
St Magnus (Jeremiah Clarke c.1673-1707)
St Stephen (William Jones 1726-1800)
Stracathro (Charles Hutcheson 1792-1860)
Tiverton (J Grigg)
Winchester Old (Sallwyr Este 1592)
Tôn [8686+8884(4)7]:
Ashley (Martin Madan 1725-90)

gwelir:
  Boddlonodd pawb trwy'r nef a'r llawr
  Fy Iesu Brenin nef a llawr
  Mae clywed newydd am ei waed
  Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
  Messiah gaed daeth ini'n Frawd
  Ni chaiff fod eisiau byth na thrai
  Rhyfeddol fawredd cariad Duw

(The Riches/Fruit of the Incarnation)
 
 
Amongst all the wonders of heaven
  This is the greatest one -
To see the immeasurable heavenly Being
  Wearing the nature of man.

Shining is his great Divinity
  Through the whole of his precious work;
By saints in and under heaven
  He is wondered at greatly.

He is wonderful in great wrath
  Against hateful sin;
A myriad times more wonderful is his work
  In the salvation of grace.

All the opponents of the gentle Lamb
  Shall experience pain and terror:
From the vast depths to the heavens above,
  Their hosts are in his hand.

Therefore I shall not fear black death,
  Whenever my life should end,
If I feel the love of dear Jesus
  Sweetly sweetening the throes.

There can never be need, while there is
  A single star in heaven,
With any of those who depend
  Upon His accomplishment.

Let the wretches all come together here,
  Droves without any number;
They can be satiated fully
  By the grace of the heavens above.

There are a thousand thousands before him
  Spending the vast time,
And never ever losing the pure love,
  Nor the pleasure in the work.

It washes our faults away with the blood,
  It bleaches all white;
It leads out from the vast desert,
  To sing on mount Zion.

    In him is treasure like the ocean,
    I will never seek anything any more,
    Peace and life are his favour;
      Perfect heaven,
    Is to get to drink the Divine peace.
::
To see the immeasurable :: To see an immeasurable
never ... while there is // One :: never ... nor waning // While there is a
Droves :: As throngs
- - - - -
Amongst all the wonders of heaven This is the greatest one, To see an infinite, divine Being Wearing the nature of man. Eternal reverence and praise be Forever to the King of glory, On his bright gospel be the success, To bring peace, to bring peace, To the utmost ends of the world. His love flowed on the hill, Like great unebbing seas; And he purchased there peace Eternally to endure. News is heard about his blood Flowing on Calvary, is One of the things of greatest privilege That our earth possesses. He washes our faults away with his blood He bleaches us all white, He draws us out from the vast desert, To sing on Zion hill.
tr. 2009,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~